{"id":49,"date":"2024-05-06T16:17:13","date_gmt":"2024-05-06T16:17:13","guid":{"rendered":"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/?page_id=49"},"modified":"2024-09-26T22:01:32","modified_gmt":"2024-09-26T22:01:32","slug":"taflenni-ffeithiau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/taflenni-ffeithiau\/","title":{"rendered":"Taflenni Ffeithiau"},"content":{"rendered":"<div id=\"top\" style=\"background-color: #ffffff;padding: 20px;border-radius: 12px;text-align: left\">\n<p>Yn Communities For Horses credwn y gall addysg wneud gwahaniaeth enfawr i geffylau a&#8217;u perchnogion. Mae gennym rai arbenigwyr ar ein t\u00eem sy&#8217;n hapus i rannu eu gwybodaeth a&#8217;u harbenigedd gyda chi.<\/p>\n<blockquote>\n<p>Os ydych chi&#8217;n berchen ar geffylau neu&#8217;n eu rheoli, rydym yn eich annog i lawrlwytho a darllen ein taflenni ffeithiau a&#8217;u rhannu gydag eraill. Hefyd, os oes angen unrhyw un o&#8217;n Taflenni Ffeithiau arnoch yn Gymraeg, byddem yn hapus i drefnu hynny ond cadwch mewn cof mai elusen fach iawn ydym ni ac mae cyfieithiadau yn golygu ffioedd ychwanegol.  Gallwch anfon e-bost atom at communitiesforhorses@outlook.com gyda&#8217;ch cais.<\/p>\n<\/blockquote>\n<h2>Syndrom Wobler Ceffylau<\/h2>\n<p>Nid yw syndrom wobler yn glefyd penodol, ond yn enw ar gr\u0175p o gyflyrau sy&#8217;n digwydd o ganlyniad i gywasgu madruddyn y cefn yng ngwddw&#8217;r ceffyl. Mae&#8217;r enw&#8217;n deillio o safiad a symudiadau annormal y ceffyl sydd wedi&#8217;i effeithio.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Equine-Wobbler-Syndrome.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Syndrom Wobler Ceffylau <\/a><\/p>\n<h2>Osteoarthritis<\/h2>\n<p>Mae osteoarthritis yn glefyd cyffredin mewn ceffylau o bob oedran. Gall effeithio ar geffylau ifanc yn ogystal \u00e2 rhai hen, er mai&#8217;r amcangyfrif yw bod osteoarthritis yn digwydd mewn dros 50% o geffylau &gt;15 oed ac mewn dros 80% o geffylau &gt;30 oed. Amcangyfrifir hefyd fod 60% o&#8217;r holl broblemau ynghylch cloffni yn ymwneud ag osteoarthritis.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Osteoarthritis.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Osteoarthritis<\/a><\/p>\n<h2>Ffliw Ceffylau<\/h2>\n<p>Mae ffliw ceffylau yn glefyd anadlol firaol heintus iawn sy&#8217;n cael ei ledaenu trwy boer a secretiadau anadlol gan geffylau heintiedig. Yn ogystal, gall peswch ceffyl ledaenu&#8217;r firws ffliw dros 40 troedfedd a gellir ei gario ar offer a dwylo a dillad pobl.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Equine-Influenza.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Ffliw Ceffylau (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Strangles<\/h2>\n<p>Mae strangles yn haint anadlol bacteriol a achosir gan y bacteriwm Streptococcus equi (S. equi). Mae&#8217;n un o glefydau mwyaf heintus mewn ceffylau a gellir ei drosglwyddo trwy fomitiau yn ogystal \u00e2 chyswllt uniongyrchol gyda cheffylau heintiedig. Gall hefyd aros yn yr amgylchedd ar ffensys a physt gi\u00e2t am hyd at 3 diwrnod yn dibynnu ar y tymheredd a&#8217;r lleithder.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Strangles.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Strangles (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Cancr<\/h2>\n<p>Mae cancr yn haint facteriol ddifrifol sy&#8217;n effeithio ar y bywyn, bariau a gwadn troed y ceffyl.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Canker.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Cancr (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Cymhlethdodau disbaddiad<\/h2>\n<p>Bydd angen monitro eich ceffyl yn ofalus ar \u00f4l ei ddisbaddu. Mae&#8217;r daflen ffeithiau ddefnyddiol yma&#8217;n dweud popeth sydd ei angen arnoch i&#8217;w fonitro a beth i&#8217;w wneud os byddwch chi&#8217;n gweld problem.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Castration-Post-Op-Complications.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Cymhlethdodau \u00f4l driniaeth Disbaddiad (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Parasitiaid coluddol ceffylau<\/h2>\n<p>Gall parasitiaid coluddol achosi salwch difrifol mewn ceffylau a gall arwain at farwolaeth hyd yn oed oes yw&#8217;r baich yn llethol. Mae&#8217;n bwysig felly bod unrhyw un sy&#8217;n darparu gofal i geffylau yn deall am barasitiaid coluddol a sut i&#8217;w rheoli&#8217;n briodol. (Rhai delweddau wedi&#8217;u defnyddio o:   https:\/\/www.yourvetonline.com\/pinworms-in-horses\/)<\/a>)<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Equine-Intestinal-Parasites.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Parasitiaid Coluddol Ceffylau (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Gwiddon y plu a llau<\/h2>\n<p>Gall y parasitiaid bach dieflig yma wneud bywyd yn annifyr iawn i&#8217;ch ceffyl. Darllenwch ein canllaw defnyddiol am help i&#8217;w hadnabod ac i ddeall sut i&#8217;w trin nhw. <\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Feather-Mites-And-Lice.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau \u2013 Gwiddon y Plu a Llau (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Llaid<\/h2>\n<p>Mae llaid yn broblem gyffredin i geffylau yn ystod y gaeaf. Caiff ei achosi gan y bacteriwm Dermatophilus congolensis, a&#8217;r un bacteriwm sy&#8217;n gyfrifol am achosi llosg glaw. Mae&#8217;r bacteriwm yn bresennol yn yr amgylchedd yn barhaol ond mae gwlychu&#8217;r croen a&#8217;r glaw am gyfnodau hir yn galluogi&#8217;r bacteriwm i fynd i mewn i&#8217;r croen ac achosi haint.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Mud-Fever.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Llaid (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Planhigion gwenwynig<\/h2>\n<p>Yn anffodus, dydy hi ddim yn anghyffredin i geffylau fwyta planhigion gwenwynig sy&#8217;n gallu eu lladd neu achosi effaith niweidiol tymor hir ar eu hiechyd a&#8217;u lles. Darllenwch ein canllaw sy&#8217;n disgrifio&#8217;r planhigion gwenwynig mwyaf cyffredin. Cofiwch, os ydych chi&#8217;n berchen ar geffyl neu&#8217;n gyfrifol am ofalu am geffyl, yna chi sy&#8217;n gyfrifol am ei gadw mewn amgylchedd diogel.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Poisonous-Plants.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Planhigion Gwenwynig (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Cosfa felys<\/h2>\n<p>Cosfa felys yw un o&#8217;r cyflyrau dermatolegol mwyaf cyffredin mewn ceffylau a gall fod yn anodd ei reoli. Caiff ei achosi gan adwaith alergaidd i boer brathiad y gwybed Culicodes. Mae&#8217;r gwybed i&#8217;w cael rhwng mis Mawrth a mis Hydref yn y DU a dyma pryd y mae&#8217;r rhan fwyaf o achosion yn cael eu gweld; mae&#8217;r gwybed ar eu mwyaf bywiog o gwmpas y cyfnos a&#8217;r wawr.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Sweet-Itch.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Cosfa felys (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Y llindag<\/h2>\n<p>Mae&#8217;r llindag yn gallu digwydd yn gyffredin yn ystod tymor y gaeaf mewn ceffylau sy&#8217;n byw allan mewn caeau gwlyb a mwdlyd ac mewn ceffylau sy&#8217;n sefyll mewn stablau am gyfnodau hir. Y rheswm am hyn yw ei fod yn cael ei achosi gan facteriwm, Fusobacterium necrophorum, sy&#8217;n ffynnu mewn amodau gyda lefelau isel o ocsigen.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Thrush.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Y llindag (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Briwiau ar y stumog<\/h2>\n<p>Er mwyn helpu i ddeall pam bod briwiau ar y stumog yn datblygu mae angen i ni&#8217;n gyntaf ddeall ffisioleg stumog y ceffyl. Mae stumog ceffyl yn cynhyrchu asid y stumog 24 awr y dydd, yn wahanol i bobl sydd ond yn cynhyrchu asid yn \u00f4l y galw. Mae hyn yn iawn i geffyl yn ei gynefin naturiol lle bydd yn pori am rhwng 17 a 22 awr y dydd ac felly&#8217;n creu poer i leihau pH asid y stumog. Fodd bynnag, mae unrhyw weithgareddau sy&#8217;n lleihau&#8217;r amser sy&#8217;n cael ei dreulio&#8217;n cnoi ac yn cynhyrchu poer yn cynyddu pH asid y stumog gan arwain at friwiau ar y stumog a phoen yn gysylltiedig ag asid, y gellir eu hystyried yn broblemau perfformiad ac ymddygiad. Mae leinin stumog ceffyl yn cynnwys dwy feinwe fwcosaidd wahanol; mae&#8217;r traean uchaf wedi&#8217;i leinio gan fwcosa cennog a&#8217;r ddau draean isaf gan fwcosa chwarennol a gall y ddwy haen friwio.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Gastric-Ulcers.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Briwiau ar y Stumog (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Llid yr Isgroen<\/h2>\n<p>Mae llid yr isgroen yn cael ei achosi gan haint facteriol sy&#8217;n digwydd yn sgil diffyg ar y croen sy&#8217;n gallu bod yn fach iawn ac yn anodd ei ganfod. Yn aml bydd ceffylau&#8217;n cael llid yr isgroen ar eu coesau yn dilyn crafiadau ac anafiadau ar eu coesau.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Factsheet-Cellulitis.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Llid yr Isgroen (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Sgorio Cyflwr Corff (BCS)<\/h2>\n<p>Mae sgorio cyflwr corff ceffyl (BCS) yn ddull a ddefnyddir i asesu cyflwr cyffredinol neu orchudd braster ceffyl. Mae&#8217;n arf defnyddiol i berchenogion ceffylau, milfeddygon a gofalwyr i fonitro statws maethol y ceffyl a gwneud newidiadau priodol i&#8217;w ddeiet os oes angen.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Factsheet-Horse-body-condition-scoring-BCS.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Sgorio cyflwr corff ceffyl (BCS) (pdf)<\/a><\/p>\n<h2>Sut i sgorio cyflwr corff eich ceffyl<\/h2>\n<p>Aseswch olwg cyffredinol y ceffyl. Edrychwch ar a theimlwch y gwahanol rannau o gorff y ceffyl i bennu faint o orchudd braster sydd yno. Agorwch y daflen ffeithiau isod i weld y rhannau allweddol i&#8217;w hasesu.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/wp-content\/uploads\/2024\/03\/Factsheet-How-to-body-condition-score-your-horse.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Taflen Ffeithiau &#8211; Sut i sgorio cyflwr corff eich ceffyl (pdf)<\/a><\/p>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn Communities For Horses credwn y gall addysg wneud gwahaniaeth enfawr i geffylau a&#8217;u perchnogion. Mae gennym rai arbenigwyr ar ein t\u00eem sy&#8217;n hapus i rannu eu gwybodaeth a&#8217;u harbenigedd gyda chi.<a class=\"moretag\" href=\"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/taflenni-ffeithiau\/\">Read More&#8230;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-49","page","type-page","status-publish","hentry"],"rttpg_featured_image_url":null,"rttpg_author":{"display_name":"CFH","author_link":"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/author\/cfh-admin\/"},"rttpg_comment":0,"rttpg_category":null,"rttpg_excerpt":"Yn Communities For Horses credwn y gall addysg wneud gwahaniaeth enfawr i geffylau a&#8217;u perchnogion. Mae gennym rai arbenigwyr ar ein t\u00eem sy&#8217;n hapus i rannu eu gwybodaeth a&#8217;u harbenigedd gyda chi.Read More...","_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/49","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=49"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/49\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":64,"href":"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/49\/revisions\/64"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.communitiesforhorses.org\/cymraeg\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=49"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}