CFH-Logo-Welsh

Yn Communities For Horses, elusen gofrestredig Rhif 1180625 rydym yn credu mewn dyfodol lle mae pob ceffyl yn derbyn gofal da a lle gall eu perchenogion ofyn am gymorth pan fydd ei angen arnyn nhw. Rydym yn cydnabod gwerth y cwlwm rhwng ceffyl a’i berchennog, ac yn cydnabod efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol os bydd eu hamgylchiadau’n newid. Fe ddylen nhw allu cael gafael ar gyngor a chefnogaeth ymarferol wedi’u hanelu at sicrhau bod anghenion yr anifail yn cael eu diwallu.

Cefnogwch CFH

Mae pob ceiniog yn gwneud gwahaniaeth mawr!

CYFRANNU

 

Button-Amdanom
Button-Cyfrannu

 

Ein Cenhadaeth

Rydym yn gweithio i wella lles ceffylau ac i liniaru dioddefaint anifeiliaid drwy ddarparu addysg a chefnogaeth i berchenogion ceffylau. Rydym yn darparu cyngor ar les, yn cydlynu darpariaeth gwasanaethau milfeddygol ac yn cynnig rhaglenni addysg yn ôl y galw a’r angen.

Mae’r traddodiad o fod yn berchen ar geffylau yn dal i fod yn gyffredin mewn gwahanol ranbarthau o’r DU, er gwaetha’r ffaith bod rhai perchenogion ceffylau’n cael eu hymyleiddio. Mae llawer o’r perchenogion ceffylau rydyn ni’n gweithio gyda nhw o dan 25 mlwydd oed, ac i rai ohonynt, bod yn berchen ar geffyl yw’r unig ffynhonnell sy’n eu symbylu.

Argyfwng gyda’ch Ceffyl?

Cliciwch yma i gael rhifau cyswllt mewn argyfwng…

ADNODDAU

Beth rydyn ni’n ei wneud

Ein nod yw darparu cefnogaeth heb farnu i berchenogion ceffylau, yn ogystal â gyrru newid cadarnhaol drwy roi cyfleoedd i berchenogion ceffylau i ddysgu, gwella eu hyder a chaffael sgiliau bywyd. Rydym yn ymateb yn gyflym i bryderon difrifol am les ac yn cydweithio gyda’r awdurdodau perthnasol i helpu ceffylau mewn angen pryd bynnag y bydd angen hynny (gweler Gweithio mewn Partneriaeth).

 

Ein Lleoliad

Mae CFH yn gweithio yn Ne Cymru ar hyn o bryd, yn benodol yn ardal Abertawe. Rydym hefyd yn agored i ymgynghori mewn ardaloedd eraill yn y DU.

 

Gweithio mewn Partneriaeth

Mae Communities For Horses yn argymell partneriaeth strategol rhwng sefydliadau sy’n gweithio i wella lles ceffylau ac i gefnogi cymunedau sy’n berchen ar geffylau. Rydym yn croesawu proses briodol a byddwn yn cydweithio’n fynych gydag elusennau cofrestredig eraill, gydag awdurdodau lleol mewn ymdrechion addysgiadol ac mewn gweithredoedd ymarferol i gynnal y gyfraith mewn perthynas â chofrestru a lles ceffylau.

 

Ein Llythyr Newyddion

Mae ein llythyrau newyddion yn lle gwych i gychwyn os ydych chi eisiau dilyn gwaith gwerthfawr Communities For Horses. Maen nhw’n llawn o wybodaeth a newyddion defnyddiol. Mae’n werth ei ddarllen!

Darllenwch ragor
Facebook
Instagram
X-Twitter

Ein Noddwyr

Lottery
Petplan