Am Communities For Horses
Mae Communities For Horses (CFH) yn elusen gofrestredig gafodd ei sefydlu yn 2017. Cafodd ei sefydlu er mwyn parhau gwaith allanol arloesol sefydliad caeedig o’r enw Communities Horse and Pony Scheme (CHAPS) oedd wedi’i ariannu gan y Loteri Genedlaethol.
EIN TÎM
Ein Gwasanaethau i Gymunedau
Cymorth gyda Phrosiectau Cymunedol
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i ddarparu prosiectau a dulliau sy’n mynd i’r afael ag achosion gwaelodol problemau lles ceffylau.
Rhaglenni Addysgu
Mae ein rhaglenni addysg unigryw wedi’u teilwra i gwrdd ag anghenion perchenogion ceffylau yn y meysydd rydyn ni’n gweithio ynddyn nhw.
Ein prif bynciau yw:
- deddfwriaeth mewn perthynas â pherchenogaeth ceffylau
- seicoleg ceffylau
- gofal ceffylau, yn cynnwys bwydo, rheoli stablau a chymorth cyntaf
Drwy wella gwybodaeth a sgiliau trafod ceffylau perchenogion ceffylau, rydyn ni hefyd yn eu symbylu i ddysgu sgiliau newydd a gwella eu hunanhyder. Mae gwaith blaenorol wedi dangos fod hyn yn gallu arwain at fanteision pellgyrhaeddol: “sgiliau meddal” cryfach a hyd yn oed gwell perfformiad yn yr ysgol. Mae llawer o’r perchenogion ceffylau rydyn ni’n eu cefnogi yn blant neu’n oedolion ifanc dan 25 oed.
Cymorth a chefnogaeth ar les ceffylau
- Llinell Gymorth: Rydym yn cynnal llinell gymorth i ddarparu cefnogaeth i berchenogion ceffylau ac aelodau o’r cyhoedd sy’n pryderu am les ceffylau. Rydym yn derbyn galwadau rheolaidd gan bobl yn y gymuned sydd angen cyngor neu sydd eisiau tynnu sylw at achos penodol yn eu cymdogaeth.
- Cyngor: Os bydd cais, byddwn yn ymweld â pherchenogion ceffylau i asesu eu sefyllfa a rhoi cyngor heb farnu ar sail achosion unigol. Mae ein cyngor yn cynnwys cyfeirio at bobl broffesiynol eraill yn ôl yr angen. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau eraill, p’un a ydyn nhw’n bodoli i helpu aelodau o’r gymuned neu geffylau, i gymryd dull cydweithredol wrth fynd i’r afael â phryderon.
- Dyddiau Milfeddyg a Chlinigau Disbaddu: Yn ogystal â dyddiau hyfforddiant, rydyn ni’n cynnal dyddiau milfeddyg a chlinigau disbaddu i cefnogi perchenogion ceffylau i wella lles eu ceffylau ac i rwystro magu ceffylau heb ffiniau.
Lle rydyn ni’n gweithredu ar hyn o bryd
Mae Abertawe’n ddinas arfordirol ac yn sir yng Nghymru gyda phoblogaeth o ryw 238,000 yn y Ddinas a’r Sir. Roedd economi Abertawe yn wreiddiol yn seiliedig ar fetelau a mwyngloddio, yn enwedig y diwydiant copr. Mae dirywiad y diwydiannau trwm yma wedi arwain at economi ddirwasgedig gyda chyfraddau uwch o ddiweithdra a chyflog gros cyfartalog blynyddol sylweddol is na chyfartaledd y DU. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn dangos ardal Abertawe fel un o’r uchaf o ran anghenion.
Mae ceffylau wedi bod yn rhan annatod o gymunedau yn yr ardal hon erioed ac maen nhw’n dal i fod yn rhan ganolog o’r cymunedau lle rydyn ni’n gweithredu. Ein nod yw cefnogi perchnogion i gynnal a gwella lles ceffylau yn Abertawe a thu hwnt. Mae ein gwaith yn cael ei ddylanwadu gan ein dealltwriaeth a’r her unigryw sy’n bodoli yn y cyd-destun lleol. Mae ennill ymddiriedaeth y cymunedau yn allweddol yn ogystal ag adeiladu pontydd drwy ddangos tact a chydymdeimlad ac yn fwy na dim, drwy addysgu.
Rydym yn eich annog i ddarllen ein hanesion i ddysgu rhagor am beth o’n gwaith.