Yn Communities For Horses credwn y gall addysg wneud gwahaniaeth enfawr i geffylau a’u perchnogion. Mae gennym rai arbenigwyr ar ein tîm sy’n hapus i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd gyda chi.

Os ydych chi’n berchen ar geffylau neu’n eu rheoli, rydym yn eich annog i lawrlwytho a darllen ein taflenni ffeithiau a’u rhannu gydag eraill. Hefyd, os oes angen unrhyw un o’n Taflenni Ffeithiau arnoch yn Gymraeg, byddem yn hapus i drefnu hynny ond cadwch mewn cof mai elusen fach iawn ydym ni ac mae cyfieithiadau yn golygu ffioedd ychwanegol. Gallwch anfon e-bost atom at communitiesforhorses@outlook.com gyda’ch cais.

Syndrom Wobler Ceffylau

Nid yw syndrom wobler yn glefyd penodol, ond yn enw ar grŵp o gyflyrau sy’n digwydd o ganlyniad i gywasgu madruddyn y cefn yng ngwddw’r ceffyl. Mae’r enw’n deillio o safiad a symudiadau annormal y ceffyl sydd wedi’i effeithio.

Taflen Ffeithiau – Syndrom Wobler Ceffylau

Osteoarthritis

Mae osteoarthritis yn glefyd cyffredin mewn ceffylau o bob oedran. Gall effeithio ar geffylau ifanc yn ogystal â rhai hen, er mai’r amcangyfrif yw bod osteoarthritis yn digwydd mewn dros 50% o geffylau >15 oed ac mewn dros 80% o geffylau >30 oed. Amcangyfrifir hefyd fod 60% o’r holl broblemau ynghylch cloffni yn ymwneud ag osteoarthritis.

Taflen Ffeithiau – Osteoarthritis

Ffliw Ceffylau

Mae ffliw ceffylau yn glefyd anadlol firaol heintus iawn sy’n cael ei ledaenu trwy boer a secretiadau anadlol gan geffylau heintiedig. Yn ogystal, gall peswch ceffyl ledaenu’r firws ffliw dros 40 troedfedd a gellir ei gario ar offer a dwylo a dillad pobl.

Taflen Ffeithiau – Ffliw Ceffylau (pdf)

Strangles

Mae strangles yn haint anadlol bacteriol a achosir gan y bacteriwm Streptococcus equi (S. equi). Mae’n un o glefydau mwyaf heintus mewn ceffylau a gellir ei drosglwyddo trwy fomitiau yn ogystal â chyswllt uniongyrchol gyda cheffylau heintiedig. Gall hefyd aros yn yr amgylchedd ar ffensys a physt giât am hyd at 3 diwrnod yn dibynnu ar y tymheredd a’r lleithder.

Taflen Ffeithiau – Strangles (pdf)

Cancr

Mae cancr yn haint facteriol ddifrifol sy’n effeithio ar y bywyn, bariau a gwadn troed y ceffyl.

Taflen Ffeithiau – Cancr (pdf)

Cymhlethdodau disbaddiad

Bydd angen monitro eich ceffyl yn ofalus ar ôl ei ddisbaddu. Mae’r daflen ffeithiau ddefnyddiol yma’n dweud popeth sydd ei angen arnoch i’w fonitro a beth i’w wneud os byddwch chi’n gweld problem.

Taflen Ffeithiau – Cymhlethdodau ôl driniaeth Disbaddiad (pdf)

Parasitiaid coluddol ceffylau

Gall parasitiaid coluddol achosi salwch difrifol mewn ceffylau a gall arwain at farwolaeth hyd yn oed oes yw’r baich yn llethol. Mae’n bwysig felly bod unrhyw un sy’n darparu gofal i geffylau yn deall am barasitiaid coluddol a sut i’w rheoli’n briodol. (Rhai delweddau wedi’u defnyddio o: https://www.yourvetonline.com/pinworms-in-horses/))

Taflen Ffeithiau – Parasitiaid Coluddol Ceffylau (pdf)

Gwiddon y plu a llau

Gall y parasitiaid bach dieflig yma wneud bywyd yn annifyr iawn i’ch ceffyl. Darllenwch ein canllaw defnyddiol am help i’w hadnabod ac i ddeall sut i’w trin nhw.

Taflen Ffeithiau – Gwiddon y Plu a Llau (pdf)

Llaid

Mae llaid yn broblem gyffredin i geffylau yn ystod y gaeaf. Caiff ei achosi gan y bacteriwm Dermatophilus congolensis, a’r un bacteriwm sy’n gyfrifol am achosi llosg glaw. Mae’r bacteriwm yn bresennol yn yr amgylchedd yn barhaol ond mae gwlychu’r croen a’r glaw am gyfnodau hir yn galluogi’r bacteriwm i fynd i mewn i’r croen ac achosi haint.

Taflen Ffeithiau – Llaid (pdf)

Planhigion gwenwynig

Yn anffodus, dydy hi ddim yn anghyffredin i geffylau fwyta planhigion gwenwynig sy’n gallu eu lladd neu achosi effaith niweidiol tymor hir ar eu hiechyd a’u lles. Darllenwch ein canllaw sy’n disgrifio’r planhigion gwenwynig mwyaf cyffredin. Cofiwch, os ydych chi’n berchen ar geffyl neu’n gyfrifol am ofalu am geffyl, yna chi sy’n gyfrifol am ei gadw mewn amgylchedd diogel.

Taflen Ffeithiau – Planhigion Gwenwynig (pdf)

Cosfa felys

Cosfa felys yw un o’r cyflyrau dermatolegol mwyaf cyffredin mewn ceffylau a gall fod yn anodd ei reoli. Caiff ei achosi gan adwaith alergaidd i boer brathiad y gwybed Culicodes. Mae’r gwybed i’w cael rhwng mis Mawrth a mis Hydref yn y DU a dyma pryd y mae’r rhan fwyaf o achosion yn cael eu gweld; mae’r gwybed ar eu mwyaf bywiog o gwmpas y cyfnos a’r wawr.

Taflen Ffeithiau – Cosfa felys (pdf)

Y llindag

Mae’r llindag yn gallu digwydd yn gyffredin yn ystod tymor y gaeaf mewn ceffylau sy’n byw allan mewn caeau gwlyb a mwdlyd ac mewn ceffylau sy’n sefyll mewn stablau am gyfnodau hir. Y rheswm am hyn yw ei fod yn cael ei achosi gan facteriwm, Fusobacterium necrophorum, sy’n ffynnu mewn amodau gyda lefelau isel o ocsigen.

Taflen Ffeithiau – Y llindag (pdf)

Briwiau ar y stumog

Er mwyn helpu i ddeall pam bod briwiau ar y stumog yn datblygu mae angen i ni’n gyntaf ddeall ffisioleg stumog y ceffyl. Mae stumog ceffyl yn cynhyrchu asid y stumog 24 awr y dydd, yn wahanol i bobl sydd ond yn cynhyrchu asid yn ôl y galw. Mae hyn yn iawn i geffyl yn ei gynefin naturiol lle bydd yn pori am rhwng 17 a 22 awr y dydd ac felly’n creu poer i leihau pH asid y stumog. Fodd bynnag, mae unrhyw weithgareddau sy’n lleihau’r amser sy’n cael ei dreulio’n cnoi ac yn cynhyrchu poer yn cynyddu pH asid y stumog gan arwain at friwiau ar y stumog a phoen yn gysylltiedig ag asid, y gellir eu hystyried yn broblemau perfformiad ac ymddygiad. Mae leinin stumog ceffyl yn cynnwys dwy feinwe fwcosaidd wahanol; mae’r traean uchaf wedi’i leinio gan fwcosa cennog a’r ddau draean isaf gan fwcosa chwarennol a gall y ddwy haen friwio.

Taflen Ffeithiau – Briwiau ar y Stumog (pdf)

Llid yr Isgroen

Mae llid yr isgroen yn cael ei achosi gan haint facteriol sy’n digwydd yn sgil diffyg ar y croen sy’n gallu bod yn fach iawn ac yn anodd ei ganfod. Yn aml bydd ceffylau’n cael llid yr isgroen ar eu coesau yn dilyn crafiadau ac anafiadau ar eu coesau.

Taflen Ffeithiau – Llid yr Isgroen (pdf)

Sgorio Cyflwr Corff (BCS)

Mae sgorio cyflwr corff ceffyl (BCS) yn ddull a ddefnyddir i asesu cyflwr cyffredinol neu orchudd braster ceffyl. Mae’n arf defnyddiol i berchenogion ceffylau, milfeddygon a gofalwyr i fonitro statws maethol y ceffyl a gwneud newidiadau priodol i’w ddeiet os oes angen.

Taflen Ffeithiau – Sgorio cyflwr corff ceffyl (BCS) (pdf)

Sut i sgorio cyflwr corff eich ceffyl

Aseswch olwg cyffredinol y ceffyl. Edrychwch ar a theimlwch y gwahanol rannau o gorff y ceffyl i bennu faint o orchudd braster sydd yno. Agorwch y daflen ffeithiau isod i weld y rhannau allweddol i’w hasesu.

Taflen Ffeithiau – Sut i sgorio cyflwr corff eich ceffyl (pdf)