Cwrdd â thîm Communities For Horses

Mae Communities For Horses yn cael ei redeg gan dîm o wirfoddolwyr ymroddgar. Mae’r elusen yn cael ei goruchwylio gan fwrdd o ymddiriedolwyr ymroddgar, pob un ag angerdd dros les anifeiliaid, addysg a datblygu cymunedol.

 


 

Ana Rose

AnaDwi’n arbenigwr mewn Perthnasoedd Buddsoddi a Chyfathrebu. Dwi hefyd wedi bod yn helpu Elusennau fel gwirfoddolwr gyda’u strategaethau cyfathrebu a chodi arian, a dyna sut y des i wybod am Communities For Horses a’r gwaith arloesol maen nhw’n ei wneud.

Gyda fy mhrofiad yn gweithio gydag elusennau sy’n helpu plant a phobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig ynghyd â nghariad at anifeiliaid, mae Communities For Horses yn berffaith i mi. Hyderaf y byddwn yn cael effaith gadarnhaol yn Abertawe a thu hwnt.

 


 

Joanna Hockenhull

JoannaGwyddonydd ymddygiad anifeiliaid ac ymchwil i les anifeiliaid ydw i ac mae gen i radd MSc mewn Ymddygiad a Lles Anifeiliaid a PhD ar les ceffylau hamdden yn y DU. Mae fy ymchwil wedi bod yn bennaf ar geffylau a da byw sy’n cael eu ffermio, gyda ffocws penodol ar ddylanwad canfyddiadau ac agweddau pobl ar wneud penderfyniadau a lles. Ers i mi ddod i’r sylweddoliad fod newid ymddygiad pobl yn allweddol i wella lles anifeiliaid, rydw i wedi cymryd rhan yn gynyddol mewn ymchwil i newid ymddygiad pobl a dwi’n aelod o’r tîm arbenigol Human Behaviour Change for Life.

Mae gen i Gob Gwyddelig, Oscar, ar fenthyg rhannol ers iddo gyrraedd ein iard yn 4 oed ac yn goesau i gyd, ac mae’n fy nghadw ar y trywydd iawn gyda phopeth sy’n ymwneud â cheffylau. Fe glywais i am waith anhygoel CFH pan fu Lisa’n siarad amdano mewn cynhadledd roeddwn i’n ei fynychu, ac fe gafodd argraff enfawr arna’ i. Dwi’n teimlo mor gyffrous i gael fy mhenodi’n ymddiriedolwr a bod yn rhan o’r elusen rhagweithiol hon wrth iddi barhau a datblygu ei gwaith anhygoel gyda chymunedau lleol a’u ceffylau.

 


 

Marie Rowland

Marie-RowlandFe raddiais gyda PhD mewn Gwyddor Milfeddygol o Brifysgol Caeredin. Pwnc fy nhraethawd PhD oedd lles ceffylau sy’n eiddo i’r gymuned Sipsi, Roma a Theithwyr (GRT) yn y DU ac Iwerddon. Fe wnes i hefyd gwblhau MSc mewn Ymddygiad a Lles Anifeiliaid. Cyn hynny bues i’n gweithio gyda Theithwyr oedd yn berchenogion ceffylau ac oedd yn un o sefydlwyr y Shannon Horse Project yng Ngorllewin Iwerddon. Cafodd y prosiect yma ei sefydlu yn 2010 yn dilyn trafodaethau ar brydlesu tir rhwng Teithwyr oedd yn berchenogion ceffylau a’r Awdurdod Lleol. Cafodd nifer o gyrsiau perthnasol eu trefnu i weithio tuag at well iechyd a lles ceffylau, cyrsiau megis sgiliau ffarier, sgorio cyflwr corff a maetheg.

Fe glywais i am Communities For Horses am y tro cyntaf mewn Clinig Iechyd Ceffylau lle roeddwn i’n casglu data ar gyfer fy mhrosiect PhD. Roedd clywed am y gwaith y mae’r sefydliad bach yma’n ei wneud wedi creu argraff arna i ac roeddwn wedi fy nenu’n arbennig gan y dull heb farnu y mae CFH yn ei gymryd. Dwi’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r elusen hon wrth iddyn nhw barhau i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi’i gyflawni.